Cwmavon SA12 9BE - 280642 (Cym)

Yn cau 11 Meh 2024

Wedi'i agor 30 Ebr 2024

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Premier Express, Siop Tyr Owen, Cwmafan, Port Talbot, SA12 9BE lle caiff ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd, yn amodol ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Mae'r postfeistr cyfredol wedi ymddiswyddo, ac nid yw’r adeilad ar gael mwyach at ddefnydd Swyddfa’r Post; fodd bynnag, mae'n dda gennym ddweud wrthych y penodwyd rhywun arall i redeg Swyddfa Bost Cwmafan, mewn lleoliad arall.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Rhowch Eich Sylwadau i Ni

Diddordebau

  • Consultation