City Of Cardiff CF10 2BY - 026611 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 30 Ion 2019
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- City Of Cardiff CF10 2BY - Decision (Cym), 367.3 KB (PDF document)
Trosolwg
Ein bod yn bwriadu symud Swyddfa’r Post Dinas Caerdydd i leoliad newydd - WHSmith, 83-85 Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 2NX a’i henw fydd Swyddfa’r Post Caerdydd. Os bydd y gangen yn symud, fe’i rhedir gan WHSmith High Street Cyf, gydag oriau agor hirach gan gynnwys dydd Sul.
Mae symud y gangen yn rhan o’r moderneiddio parhaus a wnawn ar ein rhwydwaith o ganghennau. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu hyfywedd hirdymor gwasanaethau Swyddfa’r Post yng Nghaerdydd yw drwy bartner manwerthu a ddewiswyd yn ofalus ac rydym yn hyderus mai ein cynllun ni yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau i’r gymuned am flynyddoedd lawer. Gweithredir y rhan fwyaf o ddigon o’n 11,600 cangen Swyddfa’r Post, boed bach neu fawr, yn y ffordd hon gyda phartneriaid manwerthu a chredwn mai dyma’r dull gorau ar gyfer cadw Swyddfeydd Post yn y prif leoliadau siopa ac yng nghanol cymunedau lle maent yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook