Cefn Glas CF31 4JR - 316611 (cym)

Ar gau 12 Ion 2018

Wedi'i agor 21 Tach 2017

Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Gorff 2018

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i’r adeilad y drws nesaf – Siop Spar, 44-48 Heol Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4JR.  Mae’n dda gennym ddweud y bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn un o'n canghennau lleol ffasiwn-newydd.

Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?

Cynigir gwasanaethau Swyddfa’r Post o dil ar gownter y siop mewn cangen fodern â chynllun agored

  • Oriau agor estynedig
  • Bydd y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael o hyd

Mae'r newid hwn yn rhan o raglen bwysig o foderneiddio ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, sef y fwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf.  Bydd y rhaglen sydd yn dibynnu’n helaeth ar fuddsoddiad gan y Llywodraeth,  yn moderneiddio 8,000 o ganghennau, a cheir buddsoddiad ychwanegol mewn dros 3,000 o ganghennau cymunedol ac allgymorth. 

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.