Cefn Glas CF31 4JR - 316611 (cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Gorff 2018
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen
Ffeiliau:
- Cefn Glas CF31 4JR - Decision (Cym).pdf, 351.9 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i’r adeilad y drws nesaf – Siop Spar, 44-48 Heol Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4JR. Mae’n dda gennym ddweud y bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn un o'n canghennau lleol ffasiwn-newydd.
Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?
Cynigir gwasanaethau Swyddfa’r Post o dil ar gownter y siop mewn cangen fodern â chynllun agored
- Oriau agor estynedig
- Bydd y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael o hyd
Mae'r newid hwn yn rhan o raglen bwysig o foderneiddio ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, sef y fwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf. Bydd y rhaglen sydd yn dibynnu’n helaeth ar fuddsoddiad gan y Llywodraeth, yn moderneiddio 8,000 o ganghennau, a cheir buddsoddiad ychwanegol mewn dros 3,000 o ganghennau cymunedol ac allgymorth.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook