Caerwys CH7 5AT (Cym) - 382614

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Caerwys, ar ôl bod ar gau dros dro, yn cael ei hailagor gennym ar Mawrth 16 Rhagfyr 2025.  Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Siop Gyfleustra Select, Y Sgwâr, Stryd y Gogledd, Caerwys, Yr Wyddgrug, CH7 5AW. 

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.

Pam bod eich barn yn bwysig

Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor  y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:

  • Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
  • Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
  • Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Caerwys.

Ar gau 17 Rhag 2025

Wedi agor 19 Tach 2025

Diddordebau

  • Engagement