Bwlchllan SA48 8QG - 348613 (Cym)

Ar gau 21 Maw 2018

Wedi'i agor 7 Chwef 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Ebr 2018

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus lleol ar y gwaith o ail-weithio gwasanaethau Swyddfa'r Post arfaethedig i'n cwsmeriaid ym Bwlchllan.

Ffeiliau:

Trosolwg

Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i'n cwsmeriaid ym Mwlch-llan, rydym yn cyflwyno gwasanaeth Allgymorth Symudol a fydd yn cael ei redeg o Faes Parcio Capel Bwlch-llan, Bwlch-llan, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8QG.

Caeodd y gangen ar 18 Ionawr am fod y Postfeistr wedi ymddeol. Felly, mae’n dda gennym allu dweud wrthych y bydd Postfeistr cyfagos (o Swyddfa Bost Felin-fach) yn cynnig y gwasanaeth o Faes Parcio Capel Bwlch-llan. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ar24 Ionawr 2018. Sefydlu gwasanaeth symudol yw’r ffordd orau o ddarparu gwasanaeth yn ardal Bwlch-llan.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.