Bryntirion CF31 4DD - 358611 (Cym)

Ar gau 5 Gorff 2018

Wedi'i agor 7 Meh 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 30 Awst 2018

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn ystyried gwneud ychydig o newidiadau i’r Swyddfa Bost uchod i’w gwneud yn un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd. Hoffem gael eich barn am y newidiadau cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.

Rydym yn bwriadu gwneud y newidiadau fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi trawsnewid dros 7,500 o ganghennau fel bod mwy o gwsmeriaid yn gallu cyrchu cynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn amgylchedd modern a chyfeillgar, ac yn aml mae hyn yn golygu oriau agor estynedig, gan gynnwys dydd Sul. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.

Y gangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Pe bai angen, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i’r til. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.