Bettws CF32 8RR - 691458 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 17 Ion 2022
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Y Bettws, a fu ar gau dros dro, yn ailagor 24 Ionawr 2022. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Premier Y Betws, Clos Tyn-y-betws, Y Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8YD.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.
Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae boddhad cwsmeriaid â changhennau arddull lleol yn uchel, ac mae llawer o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i oriau agor traddodiadol.
Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y Siop Premier Y Betws leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da.
Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Fodd bynnag, byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid a allai fod o fudd i gwsmeriaid, yn enwedig ynghylch mynediad i’r adeilad a’r drefn y tu mewn.
Pam bod eich barn yn bwysig
Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:
- Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
- Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
- Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Bettws.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook