Barmouth LL42 1DW - 167641 (Cym)

Canlyniadau wedi'u diweddaru 16 Maw 2022

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Ar gau 22 Chwef 2022

Wedi agor 11 Ion 2022

Trosolwg

Rydym yn symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Spar, Stryd y Brenin Edward, Abermo, LL42 1AN.

Pam ydym yn symud?

Mae'r sawl sy'n rhedeg y Swyddfa Bost ar hyn o bryd wedi ymddiswyddo, a bydd y gangen yn cau ddydd Iau 3 Mawrth 2022 am 18:00.  Felly, bu'n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.

Mae'n dda gennym gadarnhau y penodwyd rhywun arall, sy'n golygu y gallwn ailagor gwasanaeth Swyddfa'r Post  Abermo yn yr adeilad newydd ddydd Gwener 4 Mawrth 2022 am 13:00.  Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor, a bydd adleoli Swyddfa Bost Abermo yn golygu y gallwn gynnal gwasanaeth Swyddfa'r Post i'n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

Bydd cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Bydd y Swyddfa Bost yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau yn ystod oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu cangen pan mae’n gyfleus. Mae canran uchel o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol eu natur, ac mae llawer o gwsmeriaid yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.