Bangor Isycoed LL13 0AU - 679614 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Mai 2018
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Bangor Isycoed LL13 0AU - Decision (Cym), 276.7 KB (PDF document)
Trosolwg
Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid ym Mangor Is-coed, yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol, a gaiff ei redeg o’r Eglwys Bresbyteraidd, Whitchurch Road, Bangor Is-coed, Wrecsam, LL13 0AY.
Caewyd y gangen dros dro ym mis Medi 2017 am fod y Postfeistr wedi ymddiswyddo a’r adeilad wedyn heb fod ar gael at ddefnydd Swyddfa'r Post. Rydym nawr mewn sefyllfa i adfer gwasanaeth i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol, a sefydlu gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol yw’r ateb gorau posibl yn yr ardal.
Felly, mae’n dda gennyf allu dweud wrthych y bydd Postfeistr cyfagos (o Swyddfa Bost Bryn Hafod) yn cynnig y gwasanaeth o’r Eglwys Bresbyteraidd ym Mangor Is-coed. Mae'r manylion llawn am y gwasanaeth newydd arfaethedig ar gael ar ddiwedd y llythyr hwn.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook