Bangor Isycoed LL13 0AU - 679614 (Cym)

Ar gau 21 Maw 2018

Wedi'i agor 7 Chwef 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Mai 2018

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid ym Mangor Is-coed, yn bwriadu cyflwyno gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol, a gaiff ei redeg o’r Eglwys Bresbyteraidd, Whitchurch Road, Bangor Is-coed, Wrecsam, LL13 0AY.

Caewyd y gangen dros dro ym mis Medi 2017 am fod y Postfeistr wedi ymddiswyddo a’r adeilad wedyn heb fod ar gael at ddefnydd Swyddfa'r Post.  Rydym nawr mewn sefyllfa i adfer gwasanaeth i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol, a sefydlu gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol yw’r ateb gorau posibl yn yr ardal. 

Felly, mae’n dda gennyf allu dweud wrthych y bydd Postfeistr cyfagos (o Swyddfa Bost Bryn Hafod) yn cynnig y gwasanaeth o’r Eglwys Bresbyteraidd ym Mangor Is-coed.  Mae'r manylion llawn am y gwasanaeth newydd arfaethedig ar gael ar ddiwedd y llythyr hwn.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.