Crumlin Mobile NP11 4PT - 597458 (Cym)

Ar gau 22 Hyd 2021

Wedi'i agor 24 Medi 2021

Canlyniadau wedi'u diweddaru 2 Tach 2021

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi ein bod, yn dilyn cau gwasanaethau Swyddfa'r Post Gwaelod-y-garth, Efailisaf a Phant, yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r cymunedau hyn trwy gyflwyno gwasanaeth Symudol.  

Buom yn gweithio’n galed i gael hyd i ffordd o adfer gwasanaethau yn lleol. Mae Gwasanaeth Symudol, sef Swyddfa Bost deithiol mewn cerbyd pwrpasol sy’n dod â gwasanaethau a nwyddau manwerth Swyddfa’r Post i gymunedau heb ddibynnu ar adeilad, yn ffordd dda o gynnal gwasanaeth i gymunedau bach.

Byddwn hefyd yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymunedau yn Tylorstown, Cross Inn, Cwmaman, Bedlinog, Gelli-gaer, Markham, Heol Colcot a Merthyr Dyfan, gyda gwasanaeth Cerbyd Symudol.

Mae’n dda gennym roi gwybod i chi fod y Postfeistr o Swyddfa Bost Crymlyn yn barod i redeg y Gwasanaeth Symudol, sef y ffordd orau bosibl o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymunedau lleol.

Bydd y gwasanaethau Allgymorth Gwesteiol presennol sy’n gweithredu o adeiladau yn Trinant, Cwm, Llanhiledd a Six Bells, yn dod i ben ddydd Gwener 8 Hydref 2021. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anhwylustod a achosir wrth gau’r gwasanaethau hyn dros dro. Er mwyn gwasanaethu cymunedau a rhoi mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post, rydym yn symud y gwasanaethau Swyddfa'r Post hyn ac yn newid i wasanaeth cerbyd Symudol mewn arhosfan newydd ac ychydig o fân newidiadau i’r oriau agor. Bydd y gwasanaeth cerbyd Symudol yn dal i gael ei ddarparu gan y Postfeistr yn Swyddfa Bost Crymlyn.  

Bydd y gwasanaethau Swyddfa'r Post o gerbyd Symudol a nodwyd uchod yn dechrau ddydd Llun 11  Hydref 2021.

Byddwn yn dal i adolygu a monitro'r gwasanaethau drwy'r amser, a phe bai cynnydd sylweddol yn y defnydd o'r gwasanaeth, byddem yn ystyried newid yr oriau agor yn unol â hynny. Rydym yn ffyddiog y caiff ein newidiadau eu croesawu gan ein cwsmeriaid yn y cymunedau lleol.   

Rhoddir mwy o fanylion am y newidiadau i'r gwasanaethau hyn yn y llythyr isod.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.