Abergavenny NP7 5EB - 017632 (Cym)

Ar gau 12 Chwef 2020

Wedi'i agor 15 Ion 2020

Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Maw 2020

Yn dilyn yr ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r wybodaeth isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn newid y ffordd rydym yn rhedeg Swyddfa Bost Y Fenni. 

O fis Ebrill 2020 bydd y gangen yn cael ei rhedeg gan bartner masnachfraint annibynnol, sef ZCO Cyf, o’r adeilad presennol, lle bydd yn cynnig yr un dewis gwych o gynhyrchion a gwasanaethau.

Rydym yn gwneud y newid er mwyn cadw gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn. Fe fyddwch yn gwybod am newidiadau digynsail ar ein strydoedd mawr a’r heriau sy’n wynebu llawer o fân-werthwyr. Mae gofynion ein cwsmeriaid yn newid, hefyd. Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau diogel sydd yn fasnachol gynaliadwy ym mhob cymuned, a pharhau i ateb gofynion cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol. Credwn taw’r newidiadau sy’n cael eu wneud gennym yn Y Fenni yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn. Mae’r mwyafrif helaeth o’r 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post, yn fach a mawr, yn cael ei rhedeg yn llwyddiannus eisoes gan ddeiliaid masnachfraint annibynnol.