Telerau ac amodau
Telerau Defnyddio – yr Hanfodion
Rydym ni, Swyddfa’r Post, yn darparu gwasanaeth a elwir Citizen Space ("y Gwasanaeth") a hoffem i chi ei ddefnyddio. Mae’r dechnoleg y tu ôl i'r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan Delib Cyfyngedig (Delib), sydd hefyd yn ei redeg. Gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth i bostio eich syniadau neu farn. Fodd bynnag, byddwch yn gyfrifol wrth gyfrannu. Yn benodol, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw eitem o blith yr eitemau gwaharddedig a restrir isod wedi'i chynnwys mewn unrhyw gyfraniadau a wnewch i'r Gwasanaeth neu'n cysylltu â nhw o'r Gwasanaeth (pethau fel sbam, firysau, neu gynnwys casineb).
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw gynnwys rydych chi'n credu sy'n torri'r Telerau Defnyddio hyn, cysylltwch â ni yn postoffice@citizenspace.com.
Telerau Defnyddio – y Manylion
Darllenwch y Telerau Defnyddio hyn yn ofalus, os gwelwch yn dda, cyn cyrchu neu ddefnyddio'r Gwasanaeth. Trwy gyrchu neu ddefnyddio unrhyw ran o'r Gwasanaeth, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau Defnyddio hyn. Os nad ydych yn cytuno â holl delerau ac amodau'r Telerau Defnyddio hyn, yna peidiwch â chyrchu na defnyddio'r Gwasanaeth. Dim ond i unigolion sydd yn 13 oed o leiaf y mae'r Gwasanaeth ar gael.
- Cyfrifoldeb am Gyfraniadau. Os ydych chi'n gosod sylwadau neu syniadau ar y Gwasanaeth, yn gosod deunydd ar y Gwasanaeth, yn gosod dolenni ar y Gwasanaeth, neu fel arall yn gwneud (neu'n caniatáu i unrhyw drydydd parti wneud) deunydd ar gael trwy'r Gwasanaeth (unrhyw ddeunydd o'r fath, "Cynnwys") , rydych chi'n gwbl gyfrifol am gynnwys y Cynnwys hwnnw, ac unrhyw niwed sy'n deillio ohono. Mae hynny'n wir ni waeth a yw'r Cynnwys dan sylw yn cynnwys testun, graffeg, ffeil sain, neu feddalwedd cyfrifiadurol.
Wrth wneud Cynnwys ar gael, rydych yn ymhonni ac yn gwarantu:
-
- na fydd llwytho i lawr, copïo a defnyddio'r Cynnwys yn tresmasu ar hawliau perchnogol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hawliau hawlfraint, patent, nod masnach neu gyfrinach fasnachol unrhyw drydydd parti;
- os oes gan eich cyflogwr hawliau i eiddo deallusol yr ydych yn ei greu, rydych naill ai (i) wedi derbyn caniatâd gan eich cyflogwr i osod neu sicrhau bod y Cynnwys ar gael, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw feddalwedd, neu (ii) wedi sicrhau hawlildiad gan eich cyflogwr ynghylch pob hawl yn neu i'r Cynnwys;
- eich bod wedi cydymffurfio'n llawn ag unrhyw drwyddedau trydydd parti sy'n ymwneud â'r Cynnwys, ac wedi gwneud popeth sy'n angenrheidiol i drosglwyddo'n llwyddiannus unrhyw delerau gofynnol i unrhyw un arall sy'n cyrchu'r Cynnwys;
- nad yw'r Cynnwys yn cynnwys nac yn gosod unrhyw firysau, mwydod, maleiswedd, ceffylau Pren Troea neu gynnwys niweidiol neu ddinistriol arall
- nad yw'r Cynnwys yn sbam, neu wedi ei gynhyrchu gan beiriant neu ar hap, ac nad oes ganddo gynnwys masnachol anfoesegol neu ddiangen er mwyn gyrru traffig i wefannau trydydd parti, neu i roi hwb i beiriannau chwilio gwefannau trydydd parti, neu i weithredoedd anghyfreithlon pellach (megis gwe-rwydo) neu gamarwain derbynwyr ynghylch ffynhonnell y deunydd (megis ffug-negeseuo)
- nad yw'r Cynnwys yn bornograffig, yn enllibus neu'n ddifenwol (mwy o wybodaeth am beth mae hynny'n ei olygu), nad yw'n cynnwys bygythiadau nac yn ysgogi trais tuag at unigolion neu endidau, ac nad yw'n torri hawliau preifatrwydd neu gyhoeddusrwydd unrhyw drydydd parti;
Trwy gyflwyno Cynnwys i'r Gwasanaeth, rydych chi'n rhoi trwydded fyd-eang, heb freindal ac anghyfyngedig i ni a gweithredwr y Gwasanaeth (Delib Cyf) i atgynhyrchu, cymhwyso, addasu a chyhoeddi'r Cynnwys at ddibenion arddangos, dosbarthu a hyrwyddo'r Gwasanaeth yn unig. Os byddwch yn dileu’r Cynnwys, byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i'w dynnu o'r Gwasanaeth, ond rydych yn cydnabod efallai na fydd storio neu gyfeiriadau eraill at y Cynnwys yn cael eu diddymu ar unwaith.
Os byddwch yn cyflwyno syniadau neu awgrymiadau, byddwn yn rhydd i'w defnyddio hwy ac unrhyw syniadau neu awgrymiadau tebyg, heb unrhyw [gydnabyddiaeth neu] ad-daliad i chi. [Fodd bynnag, efallai y rhoddwn gydnabyddiaeth i chi am yr awgrym/syniad.]
Heb gyfyngu ar unrhyw un o’r ymhoniadau neu warantau hynny, mae gennym yr hawl (er nad y rhwymedigaeth) yn ôl ein disgresiwn llwyr i (i) wrthod neu ddileu unrhyw Gynnwys sydd, yn ein barn resymol ni, yn torri unrhyw un o’n polisïau ni neu Delib neu sydd mewn unrhyw ffordd yn niweidiol neu yn annerbyniol, neu (ii) terfynu neu wrthod mynediad i’r Gwasanaethau a defnydd o’r Gwasanaethau i unrhyw unigolyn neu endid am unrhyw reswm, yn ôl ein disgresiwn llwyr.
- Cyfrifoldeb Ymwelwyr â’r Gwasanaeth. Nid ydym wedi adolygu, ac ni allwn adolygu, yr holl ddeunydd, gan gynnwys meddalwedd cyfrifiadurol, a bostiwyd i'r Gwasanaeth, ac felly ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys, defnydd nac effeithiau'r deunydd hwnnw. Drwy weithredu’r Gwasanaeth, nid ydym yn ymhonni nac yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo’r deunydd a osodwyd yno, na’n bod yn credu bod deunydd o’r fath yn gywir, yn ddefnyddiol neu’n ddi-niweidiol. Yr ydych chi'n gyfrifol am gymryd rhagofalon yn ôl yr angen i amddiffyn eich hun a'ch systemau cyfrifiadurol rhag firysau, mwydod, ceffylau pren Troea, a chynnwys niweidiol neu ddinistriol arall. Er gwaethaf ein hymdrechion, gall y Gwasanaeth fod â chynnwys sy'n sarhaus, anweddus, neu fel arall yn annymunol, yn ogystal â chynnwys sydd ag anghywirdebau technegol, camgymeriadau teipograffyddol, a gwallau eraill. Hefyd, gall y Gwasanaeth gynnwys deunydd sy'n torri hawliau preifatrwydd neu gyhoeddusrwydd, neu sy'n tresmasu ar eiddo deallusol a hawliau perchnogol eraill, gwasanaethau gwybodaeth trydydd partïon, neu y mae ei lawrlwytho, ei gopïo neu ei ddefnyddio yn amodol ar delerau ac amodau ychwanegol, wedi'u datgan neu heb eu datgan. Rydym ni a Delib yn ymwadu ag unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed sy'n deillio o ddefnydd ymwelwyr o'r Gwasanaeth, neu o unrhyw lawrlwytho gan yr ymwelwyr hynny o gynnwys a osodwyd yno.
- Cynnwys Wedi'i Osod ar Wefannau Eraill. Nid ydym wedi adolygu, ac ni allwn adolygu, yr holl ddeunydd, gan gynnwys meddalwedd cyfrifiadurol, sydd ar gael trwy'r gwefannau a'r tudalennau gwe y mae'r Gwasanaeth yn cysylltu â hwy, ac sy’n cysylltu â’r Gwasanaeth. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefannau a thudalennau gwe’r trydydd partïon hynny, ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys na'r defnydd ohonynt. Trwy gysylltu â gwefan neu dudalen we trydydd parti, nid ydym yn ymhonni nac yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo gwefan neu dudalen we o'r fath. Yr ydych chi'n gyfrifol am gymryd rhagofalon yn ôl yr angen i amddiffyn eich hun a'ch systemau cyfrifiadurol rhag firysau, mwydod, ceffylau pren Troea, a chynnwys niweidiol neu ddinistriol arall. Rydym yn ymwadu ag unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw niwed sy'n deillio o'ch defnydd o wefannau a thudalennau gwe trydydd parti.
- Polisi Torri Hawlfraint. Am ein bod yn gofyn i eraill barchu ein hawliau eiddo deallusol, rydym yn parchu hawliau eiddo deallusol eraill. Os ydych chi'n credu bod deunydd a leolir ar y Gwasanaeth neu sy'n gysylltiedig ag ef yn torri eich hawlfraint chi neu hawlfraint trydydd parti, fe'ch anogir i roi gwybod i ni. Byddwn yn ymateb i bob hysbysiad o'r fath, gan gynnwys, fel sy'n ofynnol neu'n briodol, trwy ddileu'r deunydd tramgwyddus neu analluogi pob dolen i'r deunydd tramgwyddus. Yn achos ymwelydd a allai dorri neu neu sy’n torri hawlfreintiau neu hawliau eiddo deallusol eraill sydd gennym ni neu eraill dro ar ôl tro, gallwn, yn ôl ein disgresiwn, derfynu neu wrthod mynediad i'r Gwasanaeth a defnydd ohono.
- Eiddo Deallusol. Nid yw'r Telerau Defnyddio hyn yn trosglwyddo i chi unrhyw hawliau eiddo deallusol yn y Gwasanaeth, a bydd pob hawl, teitl a budd yn ac i eiddo o'r fath yn aros gyda ni neu Delib yn unig. Mae nodau masnach/logos Swyddfa'r Post, nodau masnach/logos Delib a'r holl nodau masnach, nodau gwasanaeth, graffeg a logos eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth, yn nodau masnach neu'n nodau masnach cofrestredig i Swyddfa'r Post a/neu Delib. Gall nodau masnach, nodau gwasanaeth, graffeg a logos eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth fod yn nodau masnach trydydd partïon eraill. Nid yw eich defnydd o'r Gwasanaeth yn rhoi unrhyw hawl na thrwydded i chi atgynhyrchu neu ddefnyddio fel arall unrhyw nodau masnach Swyddfa'r Post, Delib neu drydydd parti.
- Newidiadau. Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i addasu neu gymryd lle unrhyw ran o'r Telerau Defnyddio hyn. Eich cyfrifoldeb chi yw eu gwirio o bryd i'w gilydd am newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'r Gwasanaeth neu fynediad iddo yn dilyn gosod unrhyw newidiadau i'r Telerau Defnyddio hyn yn gyfystyr â derbyn y newidiadau hynny. Efallai y byddwn hefyd, yn y dyfodol, yn cynnig gwasanaethau a/neu nodweddion newydd drwy'r Gwasanaeth (gan gynnwys rhyddhau offer ac adnoddau newydd). Bydd nodweddion a/neu wasanaethau newydd o'r fath yn amodol i'r Telerau Defnyddio hyn.
- Terfynu. Gallwn derfynu eich mynediad i’r cyfan neu unrhyw ran o’r Gwasanaeth ar unrhyw adeg, gyda neu heb achos, gyda rhybudd neu heb rybudd, a hynny ar unwaith. Bydd holl ddarpariaethau'r Telerau Defnyddio hyn a ddylai yn ôl eu natur oroesi terfyniad yn goroesi terfyniad, gan gynnwys, heb gyfyngiad, darpariaethau perchnogaeth, ymwadiadau gwarant, indemniad a chyfyngiadau atebolrwydd.
- Ymwadiad Gwarantau Darperir y Gwasanaeth "fel y mae". Mae Swyddfa’r Post, Delib a’i gyflenwyr a thrwyddedwyr a rhiant-gwmnïau neu gwmnïau cysylltiedig drwy hyn yn ymwadu â phob gwarant o unrhyw fath, yn ddatganedig neu’n oblygedig, gan gynnwys, heb gyfyngiad, gwarantau marchnadwyedd, ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol a heb fod yn drosedd. Nid yw Swyddfa'r Post, Delib na'i gyflenwyr a thrwyddedwyr, yn rhoi unrhyw warant y bydd y Gwasanaeth yn rhydd o wallau neu y bydd mynediad iddo yn barhaus neu'n ddi-dor. Rydych yn deall eich bod yn llwytho i lawr o, neu fel arall yn cael cynnwys neu wasanaethau drwy, y Gwasanaeth yn ôl eich disgresiwn a'ch risg eich hun.
- Cyfyngu ar Atebolrwydd. Ni fydd Swyddfa’r Post, Delib, na’i gyflenwyr neu drwyddedwyr, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol mewn perthynas ag unrhyw destun o’r Telerau Defnyddio hyn o dan unrhyw gontract, esgeulustod, damcaniaeth statudol neu ddamcaniaethol gyfreithiol neu ecwitïol arall ar gyfer:
- unrhyw iawndal arbennig, damweiniol neu ganlyniadol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i golli elw, colli refeniw, colli busnes, sut bynnag y'i hachoswyd a ph'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol;
- cost caffael neu amnewid cynhyrchion neu wasanaethau;
- torri ar draws defnydd o ddata neu golli neu lygru data; neu
- unrhyw symiau sy'n fwy na £250 sterling.
Ni fydd Swyddfa'r Post na Delib yn atebol am unrhyw fethiant neu oedi oherwydd materion y tu hwnt i'w rheolaeth resymol. Ni fydd yr uchod yn berthnasol i'r graddau a waherddir gan gyfraith berthnasol.
- Ymhoniad a Gwarant Cyffredinol. Rydych yn ymhonni ac yn gwarantu (i) y bydd eich defnydd o'r Gwasanaeth yn gwbl unol â'r Polisi Preifatrwydd, y Telerau Defnyddio hyn a chyda'r holl gyfreithiau a rheoliadau cymwys (gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gyfreithiau neu reoliadau lleol yn eich gwlad, talaith, dinas , neu ardal llywodraethol arall, ynghylch ymddygiad ar-lein a chynnwys derbyniol, a chan gynnwys yr holl gyfreithiau perthnasol ynghylch trosglwyddo data technegol a allforir o’r Deyrnas Unedig neu’r wlad yr ydych yn byw ynddi) a (ii) ni fydd eich defnydd o’r Gwasanaeth yn groes i nac yn cambriodoli hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti.
- Indemniad. Rydych yn cytuno i indemnio a dal yn ddiniwed Swyddfa’r Post, Delib, eu contractwyr, a thrwyddedwyr, a’u cyfarwyddwyr, swyddogion, gweithwyr ac asiantau priodol rhag ac yn erbyn unrhyw a phob atebolrwydd, colledion, iawndal, costau, hawliadau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithwyr, sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i chi yn mynd yn groes i'r Telerau Gwasanaeth hyn.
- Amrywiol. Mae’r Telerau Gwasanaeth hyn yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhwng Swyddfa’r Post a chi ynglŷn â’r pwnc dan sylw, ac ni ellir eu haddasu ond drwy newidiad ysgrifenedig wedi’i lofnodi gan weithredwr awdurdodedig o Swyddfa’r Post, neu os oes fersiwn diwygiedig yn cael ei gofnodi gan Swyddfa’r Post. Ac eithrio i’r graddau y mae cyfraith berthnasol, os o gwbl, yn darparu fel arall, bydd unrhyw fynediad at neu ddefnydd o’r Gwasanaeth yn cael ei lywodraethu gan gyfreithiau Lloegr ac eithrio ei ddarpariaethau gwrthdaro cyfraith, a’r lleoliad priodol ar gyfer unrhyw anghydfodau sy’n deillio o neu sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r rhain fydd llysoedd Lloegr, ac eithrio hawliadau am ryddhad gwaharddol neu ecwitïol neu hawliadau ynghylch hawliau eiddo deallusol (y gellir eu dwyn mewn unrhyw lys cymwys). Os bernir bod unrhyw ran o'r Telerau Defnyddio hyn yn annilys neu'n anorfodadwy, dehonglir y rhan honno i adlewyrchu bwriad gwreiddiol y partïon, a bydd y rhannau sy'n weddill yn parhau mewn grym ac effaith lawn. Ni fydd ildiad gan y naill barti neu’r llall o unrhyw deler neu amod o’r Telerau Defnyddio hyn neu unrhyw doriad o’r Telerau Defnyddio hyn, mewn unrhyw un achos, yn ildio’r cyfryw deler neu amod nac unrhyw doriad dilynol ohonynt. Gallwch aseinio’ch hawliau o dan y Telerau Defnyddio hyn i unrhyw barti sy’n cydsynio i’r telerau ac amodau, ac yn cytuno i fod yn rhwym iddynt; gall Swyddfa'r Post aseinio ei hawliau o dan y Telerau Defnyddio hyn heb amod. Bydd y Cytundeb hwn yn gyfrwymol a daw i rym er budd y partïon, eu holynwyr a'r aseinïaid a ganiateir.