Preifatrwydd
Mae Swyddfa'r Post Cyfyngedig wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd, ac mae gwybodaeth ynghylch sut rydym yn gwneud hyn ar ein gwefan yn www.postoffice.co.uk/privacy.
Gwybodaeth Breifatrwydd Delib
Mae meddalwedd Delib (y wefan hon) yn galluogi sefydliadau i sefydlu a gweithredu gweithgareddau, y gallant ymgysylltu â chi drwyddynt.
Rheolir y safle hwn gan y sefydliad rheoli, sef Swyddfa'r Post. Pan fyddwch yn cyrchu ac yn defnyddio'r safle hwn, bydd y wybodaeth bersonol a gyflwynwyd gennych i'r gweithgareddau hyn yn mynd i'r sefydliad. Ni fydd Delib yn cyrchu eich gwybodaeth bersonol oni bai bod y sefydliad yn gofyn iddo wneud hynny, a dim ond at ddibenion eu cynorthwyo i weinyddu’r safle hwn.
Cyrchu eich Gwybodaeth Bersonol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau am eich gwybodaeth bersonol, er enghraifft i ofyn am gopi o’r wybodaeth, neu i ofyn am gywiro’r wybodaeth os credwch ei bod yn anghywir, cysylltwch â’r sefydliad (fel y nodir yn eu Datganiad Preifatrwydd / Polisi Preifatrwydd). Cyfrifoldeb y sefydliad rheoli yw ateb unrhyw gwestiynau neu geisiadau am eich gwybodaeth bersonol.
Casglu Gwybodaeth Porwr
Mae'r wybodaeth a ddarperir gan eich cyfrifiadur pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon yn cael ei chasglu gan Delib. Er enghraifft, eich math o borwr, cyfeiriad IP, dewis iaith, safle cyfeirio a'r dyddiad a'r amser. Pwrpas casglu'r wybodaeth hon yw cynnal diogelwch y wefan ac i weithredu a gwella'r feddalwedd.