Gwybodaeth Ddefnyddiol
Pryd bynnag y byddwn yn bwriadu gwneud newid i gangen Swyddfa'r Post, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch hysbysu am yr hyn sy’n digwydd – a chewch gyfle i rannu eich barn. Er mwyn cynnal ein hymrwymiad i chi, rydym wedi cytuno ar yr Egwyddorion Ymgysylltu â’r Gymuned ynghylch newidiadau i rwydwaith Swyddfa'r Post.
Cafodd yr Egwyddorion hyn eu creu trwy gytundeb â’r cyrff eiriolaeth statudol annibynnol, sef Cyngor ar Bopeth a Chyngor ar Bopeth yr Alban, a Chyngor y Defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon. Maent yn ymwneud â sut rydym yn cyfathrebu â chi a’ch cynrychiolwyr lleol.
Ar gyfer penderfyniadau blaenorol, gweler ymgynghoriadau wedi dod i ben neu cliciwch yma. I gael gwybodaeth am ymgynghoriadau cyn 1 Ebrill 2016, cysylltwch â ni. Cewch hyd i wybodaeth arall ac atebion i Gwestiynau Cyffredin yma.