Ystalyfera SA9 2LY - 270642 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 2 Hyd 2018
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Ystalyfera SA9 2LY - Decision (Cym), 451.6 KB (PDF document)
Trosolwg
Ymgynghoriad Cyhoeddus Lleol
Rydym yn bwriadu, â chytundeb y Postfeistr, symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Ystalyfera Stores, 47-49 Commercial, Ystalyfera, Abertawe, SA9 2HS. Bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn un o'n canghennau lleol ffasiwn-newydd.
Pam ydym yn symud?
Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi trawsnewid dros 7,500 o ganghennau fel bod mwy o gwsmeriaid yn gallu cyrchu cynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn amgylchedd modern a chyfeillgar, ac yn aml mae hyn yn golygu oriau agor estynedig, gan gynnwys dydd Sul. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr a siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook