Ynysboeth CF45 4BX - 422611 (Cym)
Results updated 12 Dec 2019
Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Files:
- Ynysboeth CF45 4BX - Outcome (Cym), 206.9 KB (PDF document)
Overview
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn, yn dilyn cau Swyddfa Bost Ynys-boeth dros dro, yn ailagor y gangen dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef: Winkys, 2-3 Commercial Place, Matthewstown, Aberpennar, CF45 4YR.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.
Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y lleoliad newydd i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da.
Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol.
What happens next
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Ynys-boeth.
Share
Share on Twitter Share on Facebook