Ynysboeth CF45 4BX - 422611 (Cym)

Ar gau 3 Rhag 2019

Wedi'i agor 5 Tach 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 12 Rhag 2019

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn, yn dilyn cau Swyddfa Bost Ynys-boeth dros dro, yn ailagor y gangen dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef: Winkys, 2-3 Commercial Place, Matthewstown, Aberpennar, CF45 4YR.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.

Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.

Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y lleoliad newydd i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da.

Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Ynys-boeth.