Talgarth LD3 0BW - 377632 (Cym)

Ar gau 15 Medi 2023

Wedi agor 4 Awst 2023

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd - Y Co-Op Bwyd, Ffordd Y Gelli, Talgarth, Aberhonddu, LD3 0AW, lle bydd yn dal i gael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Fel y gwyddoch efallai, mae ein partneriaid mân-werthu yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn, mae ein  partneriaid wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i leoliad newydd er mwyn dal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.

Byddai'r adeilad newydd arfaethedig, sydd ar hyn o bryd yn wag, yn cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys Swyddfa Bost Talgarth a'r Co-Op Bwyd, yn amodol ar ymgynghoriad.

 

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.