Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi fod gwasanaeth allgymorth Sarn wedi agor mewn lleoliad newydd: Garej Ni, Sarn, Mellteyrn, Pwllheli, LL53 5DU ddydd Llun 2 Hydref 2023. Mae'n ddrwg gennyf am fod yn hwyr yn rhoi gwybod y tro hwn.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.
Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post.
Share
Share on Twitter Share on Facebook