Ruabon LL14 6NL - 594614 (Cym)

Ar gau 25 Gorff 2023

Wedi agor 27 Meh 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 18 Awst 2023

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Rhiwabon, ar ôl bod ar gau dros dro, yn cael ei hailagor gennym ar ddydd Gwener 11 Awst am 13:00.  Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Siop Ddisgownt Rhiwabon, Y Stryd Fawr Newydd, Rhiwabon, Wrecsam, LL14 6AW, lle bydd y gangen yn dal i weithredu fel un o'n canghennau lleol eu dull. 

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.

 

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor  y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:

  • Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
  • Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
  • Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Rhiwabon.