Rhydymwyn Mobile Service CH7 5HE - 742614 (Cym)
Trosolwg
Rydym yn symud y gwasanaeth Swyddfa Bost Symudol uchod i: Orsaf Gwasanaethau Rhyd-y-mwyn, Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug, CH7 5HE, lle caiff ei redeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.
Mae’r gwasanaeth symudol presennol i fod i ddod i ben ddydd Llun 16 Chwefror 2026 am 14:45 ac mae’r gwasanaeth Swyddfa Bost newydd i fod i symud i’r adeilad newydd ddydd Gwener 20 Chwefror 2026 am 13:00. Os bydd unrhyw newidiadau nas rhagwelwyd yn golygu newid y dyddiadau hyn, bydd posteri’n cael eu gosod i roi gwybod i gwsmeriaid.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.
Pam bod eich barn yn bwysig
Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:
- Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
- Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
- Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)
Rhowch Eich Sylwadau i Ni
Diddordebau
- Engagement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook