Pontarddulais SA4 8RA - 253642 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 18 Meh 2021
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Pontarddulais SA4 8RA - Decision (Cym), 262.8 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Family Shopper, 27 - 29 Stryd Teilo Sant, Pontarddulais, Abertawe, SA4 8SZ.
Pam ydym yn symud?
Mae'r Postfeistr presennol wedi ymddiswyddo, ac ni fydd yr adeilad ar gael bellach i’w ddefnyddio’n Swyddfa Bost. Felly, bu’n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol.
Mae'n dda gennym ddweud wrthych y penodwyd asiant newydd i redeg y Swyddfa Bost uchod o’r tu mewn i siop Family Shopper, lle bydd yn dal i gael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.
Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a bydd adleoli Swyddfa Bost Pontarddulais yn golygu y gallwn gynnal gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae canran uchel o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae llawer o gwsmeriaid yn ymweld â changhennau lleol y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook