Pentrebach CF48 4BJ - 452611 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 8 Ebr 2022
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Pentrebach CF48 4BJ - Decision (Cym), 236.4 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd - Siop Gyfleustra Pentre-bach, 4 Walkers Terrace, Pentre-bach, Merthyr Tudful, CF48 4DD, lle byddai'n cael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook