Penrhiwceiber CF45 3SP - 480458 (Cym)

Ar gau 12 Medi 2019

Wedi'i agor 15 Awst 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 24 Medi 2019

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Penrhiw-ceibr, ar ôl bod ar gau dros dro, yn cael ei hailagor gennym ddydd Llun 9 Medi 2019. Bydd mewn lleoliad newydd, sef Premier, 1 Stryd yr Eglwys, Penrhiw-ceibr, Aberpennar, CF45 4YD. 

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.

Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y Swyddfa Bost / yr ardal leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da. Byddai’n ddefnyddiol hefyd pe gallech rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol yn y gymuned – er enghraifft ar hysbysfyrddau, ymhlith elusennau lleol ac mewn meddygfeydd, er mwyn helpu ein cwsmeriaid a’ch etholwyr i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r Swyddfa Bost yn Penrhiw-ceibr.

 

Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol. 

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Penrhiw-ceibr.