North Cornelly - CF33 4LN (Cym) - 503611

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi, yn dilyn cau Swyddfa Bost Gogledd Corneli, y byddwn yn ailagor y gangen ddydd Mercher 25 Chwefror 2026 am 13:00. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Megasave, 46 Heol Llan. Gogledd Corneli, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 4DP.  

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau pe bai angen, er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Er y gwnaed penderfyniad eisoes i ailagor  y gangen hon, hoffem o hyd glywed eich barn am fynediad yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a all gyfrannu at ein cynlluniau, ac mae'r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ynglŷn â'r canlynol:

  • Mynediad i'r adeilad newydd (Cwestiwn 4)
  • Hygyrchedd y tu mewn i'r adeilad newydd (Cwestiwn 5)
  • Unrhyw adborth pellach ynglŷn â'n cynlluniau (Cwestiwn 6)

Rhowch Eich Sylwadau i Ni

Yn cau 3 Chwef 2026

Wedi agor 6 Ion 2026

Diddordebau

  • Engagement