Newport NP20 1EB - 019632 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 3 Hyd 2018
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Newport NP20 1EB - Decision (Cym), 441.5 KB (PDF document)
Trosolwg
Ein bod yn bwriadu symud Swyddfa Bost Casnewydd i’r siop wag gerllaw yn 174-176 Stryd Doc Uchaf, Casnewydd, NP20 1DY, lle byddai’n cael ei rhedeg gan ein Partner Manwerth newydd. Ni fyddai newid i’r gwasanaethau i gwsmeriaid, a cheid oriau agor estynedig a fyddai’n cynnwys dydd Sul.
Mae’r newid hwn yn rhan o’r gwaith o foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Credwn taw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu hyfywedd hirdymor gwasanaethau Swyddfa'r Post yng Nghasnewydd yw trwy gael partner manwerth wedi’i ddewis yn ofalus, ac rydym yn ffyddiog taw ein cynllun arfaethedig yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer y gymuned. Mae’r mwyafrif helaeth o’n 11,600 o ganghennau Swyddfa’r Post, mawr a bach, yn cael eu rhedeg yn llwyddiannus fel hyn gyda phartneriaid manwerth a chredwn taw dyma’r ffordd orau o gadw Swyddfeydd Post mewn mannau siopa ac yng nghanol cymunedau lle maent yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook