Nefyn LL53 6HD - 344604 (Cym)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi ein bod, yn dilyn cau Swyddfa Bost Nefyn, yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned drwy gyflwyno gwasanaeth Symudol yn Y Stryd Fawr, Nefyn, Pwllheli, LL53 6HD, gan ddechrau ddydd Sadwrn 08 Chwefror 2025 am 11:25.
Buom yn gweithio’n galed i gael hyd i ffordd o adfer gwasanaethau yn lleol. Profwyd bod gwasanaeth Symudol, sef Swyddfa Bost deithiol ar fwrdd cerbyd pwrpasol sy'n dod â gwasanaethau a chynhyrchion manwerth Swyddfa'r Post i gymunedau heb orfod dibynnu ar adeilad parhaol, yn ffordd dda o gynnal gwasanaeth i gymunedau bychain.
Felly, mae'n dda gennym ddweud wrthych fod y postfeistr o Swyddfa Bost Betws-y-coed wedi cytuno i redeg y gwasanaeth Symudol; dyna yw’r ffordd orau posibl o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned hon.
Rydym yn monitro nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post yn gyson ac rydym yn hyderus y bydd ein cwsmeriaid yn y cymunedau lleol yn croesawu ein newidiadau arfaethedig.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth i adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Nefyn.
Diddordebau
- Engagement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook