Manselton SA5 9ND - 216642 - Cym

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Trefansel, a fu ar gau dros dro, yn ailagor y gangen ddydd Mawrth 14 Medi 2021 am 13:00.  Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Archfarchnad CK, 60-68 Heol Pentregethin, Cwmbwrla, Abertawe, SA5 8BA. 

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.

Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae boddhad cwsmeriaid â changhennau arddull lleol yn uchel, ac mae llawer o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i oriau agor traddodiadol.

 

 

Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y wyddfa Bost  leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da. 

Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol. 

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Trefansel.

Ar gau 14 Medi 2021

Wedi agor 17 Awst 2021