Maesgeirchen Mobile Service - 174604 (Cym)

Canlyniadau wedi'u diweddaru 28 Hyd 2019

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol.

Ffeiliau:

Ar gau 15 Hyd 2019

Wedi agor 17 Medi 2019

Trosolwg

Rydym yn ysgrifennu i roi gwybod i chi fod y Gwasanaeth Cartref a gynigiwyd i gymunedau Bodffordd, Dwyran a Malltraeth wedi dod i ben a bod Gwasanaeth Symudol wedi cymryd ei le.  Rydym hefyd wedi cyflwyno gwasanaethau Swyddfa'r Post newydd i gymunedau Bryngwran a Thal-y-bont trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol newydd.

Mae’n dda gennym ddweud wrthych fod y postfeistr o Swyddfa Bost Maesgeirchen yn fodlon rhedeg y Gwasanaethau symudol hyn.

Er mwyn gallu cynnal y Gwasanaethau symudol newydd bydd rhai newidiadau i’r gwasanaethau presennol yn Llanfaelog, Rhos-y-bol, Moelfre a Bangor Uchaf. Byddwn hefyd yn gwneud rhai newidiadau i’r gwasanaeth a gynigir yn Sant Gwynan, a elwir nawr yn ‘Dwygyfylchi’. Yn ogystal, gelwir y Gwasanaeth Symudol a gynigir ym Maldwyn yn ‘Llandegfan’.

Dechreuodd y Gwasanaethau symudol newydd a’r newidiadau hyn o’r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 02 Medi 2019.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.