Maesgeirchen Mobile Service - 174604 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 28 Hyd 2019
Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol.
Ffeiliau:
- Maesgeirchen Mobile Service - Outcome (Cym), 324.3 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn ysgrifennu i roi gwybod i chi fod y Gwasanaeth Cartref a gynigiwyd i gymunedau Bodffordd, Dwyran a Malltraeth wedi dod i ben a bod Gwasanaeth Symudol wedi cymryd ei le. Rydym hefyd wedi cyflwyno gwasanaethau Swyddfa'r Post newydd i gymunedau Bryngwran a Thal-y-bont trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol newydd.
Mae’n dda gennym ddweud wrthych fod y postfeistr o Swyddfa Bost Maesgeirchen yn fodlon rhedeg y Gwasanaethau symudol hyn.
Er mwyn gallu cynnal y Gwasanaethau symudol newydd bydd rhai newidiadau i’r gwasanaethau presennol yn Llanfaelog, Rhos-y-bol, Moelfre a Bangor Uchaf. Byddwn hefyd yn gwneud rhai newidiadau i’r gwasanaeth a gynigir yn Sant Gwynan, a elwir nawr yn ‘Dwygyfylchi’. Yn ogystal, gelwir y Gwasanaeth Symudol a gynigir ym Maldwyn yn ‘Llandegfan’.
Dechreuodd y Gwasanaethau symudol newydd a’r newidiadau hyn o’r wythnos yn cychwyn ddydd Llun 02 Medi 2019.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook