Bethel LL55 1YT - 209604(Cym)

Ar gau 28 Chwef 2020

Wedi'i agor 31 Ion 2020

Canlyniadau wedi'u diweddaru 16 Maw 2020

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth.

Ffeiliau:

Trosolwg

Fel y gwyddoch o bosibl, mae'r Swyddfa Bost uchod i fod i gau ddydd Sadwrn 1 Chwefror 2020 yn dilyn ymddiswyddiad y Postfeistr a’r adeilad wedyn heb fod ar gael at ddefnydd Swyddfa’r Post.  Er mwyn cynnal gwasanaethau Swyddfa'r Post ym Methel rydym yn cyflwyno gwasanaeth symudol parhaol. Bydd hwn yn dechrau ddydd Mercher 12 Chwefror 2020 am 15:15 yn Y Maes Parcio Y Neuadd Goffa, Bethel, Caernarfon, LL55 1YE.

Felly, mae’n dda gennym roi gwybod i chi fod y postfeistr o Swyddfa Bost Maesgeirchen yn fodlon rhedeg y gwasanaethau symudol, sef y ffordd orau bosibl o gynnal gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned hon.

 

 

Er mwyn gallu cynnal y gwasanaeth symudol newydd bydd rhai newidiadau i’r gwasanaeth presennol, gan ddechrau yn yr wythnos sy’n cychwyn ar 10 Chwefror 2020.

Mae manylion pellach am y gwasanaethau hyn ar gael ar ddiwedd y llythyr hwn.

Byddwn yn gosod posteri yn lleol i rannu’r newyddion da â’n cwsmeriaid. Os ydych yn gynrychiolydd lleol, byddai o gymorth pe gallech rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol yn eich cymuned – er enghraifft ar hysbysfyrddau, ymhlith elusennau lleol ac mewn meddygfeydd – er mwyn helpu ein cwsmeriaid a’ch etholwyr chi i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r Swyddfa Bost yn y gymuned leol. Os hoffech gael cyflenwad o’r posteri hyn, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.