Maerdy CF43 4DA - 392611(Cym)
Results updated 24 Sep 2019
Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Files:
- Maerdy CF43 4DA - Outcome (Cym), 207.0 KB (PDF document)
Overview
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Maerdy, a fu ar gau dros dro, yn ailagor Gwener 27 Medi 2019. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Spar, Ffordd Y Maerdy, CF43 4BA.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y Swyddfa Bost / yr ardal leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da. Byddai’n ddefnyddiol hefyd pe gallech rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol yn y gymuned – er enghraifft ar hysbysfyrddau, ymhlith elusennau lleol ac mewn meddygfeydd, er mwyn helpu ein cwsmeriaid a’ch etholwyr i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r Swyddfa Bost.
Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol.
What happens next
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post.
Share
Share on Twitter Share on Facebook