Llanelli SA15 1AA - 150642 (Cym)

Ar gau 20 Awst 2019

Wedi'i agor 9 Gorff 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 6 Medi 2019

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi am rai newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth Swyddfa'r Post yn yr ardal.  Mae hyn yn golygu ein bod heddiw’n dechrau ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o chwe wythnos ynghylch cau cangen Swyddfa Bost Llanelli.

Yn ddiweddar, yn ardal Llanelli, rydym wedi agor dwy gangen newydd yn Stryd yr Eglwys ar 24 Medi 2018 gydag oriau agor o 07:00 i 20:00 o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn ac o 08:00 i 16:00 ddydd Sul; ac yn Heol Pen-bre ar 30 Ebrill 2019 gydag oriau agor o 07:30 i 22:00 o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn a 08:30 i 21:00 ddydd Sul.

Hefyd, mae sawl cangen arall yn yr ardal y gallai cwsmeriaid eu defnyddio.  Er enghraifft, mae Swyddfa Bost Stryd Ann a Swyddfa Bost Dociau Llanelli o fewn 0.6 milltir i  Swyddfa Bost Llanelli.

Rydym yn ffyddiog y gall ein canghennau newydd ateb galw’r cwsmeriaid, gan gynnwys cwsmeriaid ychwanegol, trwy gynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post, a dal i fod yn hygyrch. Bydd y nifer fach o cynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post na fydd ar gael yn ein canghennau newydd, megis Gwirio ac Anfon Pasport, gwasanaethau Adnabod, rhoi newid a bancio gwerth-uchel, yn dal i fod ar gael yn Swyddfa Bost Stryd Ann, 18 Stryd Ann, Llanelli, SA15 1TD a Swyddfa Bost Dociau Llanelli, 3 Heol y Doc Newydd, Llanelli, SA15 2EG.

Mae’r peiriant arian parod allanol agosaf mewn cangen Swyddfa'r Post tua 0.4 milltir i ffwrdd yn Swyddfa Bost Stryd Ann, 18 Stryd Ann, Llanelli, SA15 1TD. Mae holl ganghennau Swyddfa'r Post yn cynnig mynediad am ddim i arian parod ar ran prif fanciau’r stryd fawr. Bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio cerdyn debyd i godi arian wrth gownter y gangen newydd yn ystod yr holl oriau agor estynedig.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym bellach yn dechrau cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus lleol ac rydym yn hoffi i chi ddweud wrthym beth yw eich barn am fynediad at wasanaethau Swyddfa'r Post yn yr ardal yn dilyn y cau.