Llandudno LL30 2NY - 678614 (Cym)

Ar gau 28 Tach 2018

Wedi'i agor 31 Hyd 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 22 Ion 2019

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn newid y ffordd rydym yn rhedeg Swyddfa Bost Llandudno. O ddydd Iau 21 Chwefror 2019 bydd y gangen yn trosglwyddo i  WHSmith High Street Cyf a fydd yn dal i fod yn yr adeilad presennol. 

Mae’r newid hwn yn rhan o’r gwaith parhaus o foderneiddio rhwydwaith Swyddfa’r Post.  Ein blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr  ein bod yn darparu gwasanaethau sy’n ateb gofynion y cwsmer, nawr ac yn y dyfodol, mewn ffordd a fydd yn sicrhau hyfywedd hirdymor i wasanaethau Swyddfa'r Post yn Llandudno.

WHSmith yw un o’r gwerthwyr llyfrau, papurau a deunydd ysgrifennu mwyaf yn y DG.  Mae gan y cwmni fwy na 1,400 o siopau, gyda chyrhaeddiad eang a phresenoldeb ar bron bob un o strydoedd mawr pwysicaf y DG.  Mae WHSmith wedi bod yn rhedeg Swyddfeydd Post yn llwyddiannus yn ei siopau er 2007.  Ar hyn o bryd mae’n rhedeg dros 130 o ganghennau, gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid, gyda staff hyfforddedig yn hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau mewn amgylchedd modern.