Kingsmills Road LL13 8NL - 568614 (Cym)

Ar gau 5 Tach 2024

Wedi'i agor 24 Medi 2024

Trosolwg

Mae prydles yr adeilad yn Swyddfa Bost Kingsmills Road ar fin dod i ben. Ni fydd yr adeilad ar gael wedyn i’w ddefnyddio gan Swyddfa’r Post ac mae’r gangen i fod i gael ei chau ddydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024 am 17:30.

Felly, rydym yn bwriadu symud y gangen  i leoliad newydd: 6 Heol y Tywysog Siarl, Wrecsam, LL13 8YD, lle byddai’n uno â changen Swyddfa'r Post Bryn Hafod ac yn cael ei hadnabod fel Swyddfa Bost Heol y Tywysog Siarl. Byddai’r gangen gyfunol newydd yn cael ei rhedeg gan y postfeistr presennol yn Kingsmills Road fel un o’n canghennau prif-ddull, yn amodol ar ymgynghoriad

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Mae’r postfeistr yn Swyddfa Bost Bryn Hafod wedi ymddiswyddo o redeg y gangen a mae’r gangen i fod i gau ddydd Llun 18 Tachwedd 2024 am 17:00.  Os bydd ail-leoliad Swyddfa Bost Kingsmills Road yn digwydd, bydd hyn yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymuned Bryn Hafod.

Yn ogystal, bydd rhaid i’r  gwasanaethau allgymorth sy’n cael eu rhedeg gan bostfeistr cangen Bryn Hafod yn: Marchwiail, Bangor Is-coed, Yr Orsedd, Llannerch Banna, Higher Kinnerton a Cockshutt hefyd yn gorfod cau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 11 Tachwedd 2024.  Ar hyn o bryd, nid yw’n fwriad cael gwasanaethau yn lle’r gwasanaethau allgymorth hyn ac rydym yn ymddiheuro am yr anhwylustod a all ddigwydd oherwydd y cau.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.

Diddordebau

  • Consultation