Kilgetty Mobile Service SA68 0UF - 401613 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Chwef 2021
Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth.
Ffeiliau:
- Llanfallteg SA34 0UN - Outcome (Cym), 117.2 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol yn Llanfallteg trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol, yn cael ei redeg o Faes Parcio Neuadd y Mileniwm, Llanfallteg, Hendy-gwyn, SA34 0UN. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ddydd Iau 7 Ionawr 2021. Mae’n ddrwg gennym am fod yn hwyr yn rhoi gwybod i chi.
Buom yn gweithio’n galed yn chwilio am ffordd o adfer gwasanaethau yn lleol. Mae Gwasanaeth Symudol, sef Swyddfa Bost deithiol mewn cerbyd pwrpasol sy’n dod â gwasanaethau a nwyddau Swyddfa’r Post i gymunedau heb ddibynnu ar adeilad, yn ffordd dda o gynnal gwasanaeth i gymunedau bach.
Felly, mae’n dda gennym roi gwybod i chi fod y postfeistr o Swyddfa Bost Cilgeti yn rhedeg y Gwasanaeth Symudol newydd, sef y ffordd orau bosibl o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymuned Llanfallteg.
Er mwyn gallu cynnal Gwasanaeth Symudol newydd Llanfallteg, gwnaed peth newidiadau i oriau agor Gwasanaeth Symudol Blaen-waun, sydd hefyd yn cael ei redeg gan Swyddfa Bost Cilgeti. Mae manylion pellach am y newidiadau i’r gwasanaeth hwn ar ddiwedd y llythyr hwn.
Byddwn yn gosod posteri yn lleol i rannu’r newyddion da â’n cwsmeriaid. Os ydych yn gynrychiolydd lleol, byddai o gymorth pe gallech rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol yn eich cymuned – er enghraifft ar hysbysfyrddau, ymhlith elusennau lleol ac mewn meddygfeydd – er mwyn helpu ein cwsmeriaid a’ch etholwyr chi i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r Swyddfa Bost yn y gymuned leol. Os hoffech gael cyflenwad o’r posteri hyn, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.
Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i Lanfallteg cyn gynted â phosibl, rydym eisoes wedi dechrau’r Gwasanaeth Symudol ar 7 Ionawr 2021. Fodd bynnag, buasem yn croesawu awgrymiadau neu sylwadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, er enghraifft pa mor hawdd ydi hi i gyrraedd lleoliad y gwasanaeth Teithiol ac oriau agor y gwasanaeth.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook