Kilgetty Mobile Service SA68 0UF - 401613 (Cym)

Ar gau 10 Chwef 2021

Wedi agor 13 Ion 2021

Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Chwef 2021

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol yn Llanfallteg trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol, yn cael ei redeg o Faes Parcio Neuadd y Mileniwm, Llanfallteg, Hendy-gwyn, SA34 0UN. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ddydd Iau 7 Ionawr 2021.  Mae’n ddrwg gennym am fod yn hwyr yn rhoi gwybod i chi.

Buom yn gweithio’n galed yn chwilio am ffordd o adfer gwasanaethau yn lleol.  Mae Gwasanaeth Symudol, sef Swyddfa Bost deithiol mewn cerbyd pwrpasol sy’n dod â gwasanaethau a nwyddau Swyddfa’r Post i gymunedau heb ddibynnu ar adeilad, yn ffordd dda o gynnal gwasanaeth i gymunedau bach.

Felly, mae’n dda gennym roi gwybod i chi fod y postfeistr o Swyddfa Bost Cilgeti yn rhedeg y Gwasanaeth Symudol newydd, sef y ffordd orau bosibl o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymuned Llanfallteg.

Er mwyn gallu cynnal Gwasanaeth Symudol newydd Llanfallteg, gwnaed peth newidiadau i oriau agor Gwasanaeth Symudol Blaen-waun, sydd hefyd yn cael ei redeg gan Swyddfa Bost Cilgeti. Mae manylion pellach am y newidiadau i’r gwasanaeth hwn ar ddiwedd y llythyr hwn.

Byddwn yn gosod posteri yn lleol i rannu’r newyddion da â’n cwsmeriaid. Os ydych yn gynrychiolydd lleol, byddai o gymorth pe gallech rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw grwpiau neu sefydliadau lleol yn eich cymuned – er enghraifft ar hysbysfyrddau, ymhlith elusennau lleol ac mewn meddygfeydd – er mwyn helpu ein cwsmeriaid a’ch etholwyr chi i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r Swyddfa Bost yn y gymuned leol. Os hoffech gael cyflenwad o’r posteri hyn, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.

Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i Lanfallteg cyn gynted â phosibl, rydym eisoes wedi dechrau’r Gwasanaeth Symudol ar 7 Ionawr 2021. Fodd bynnag, buasem yn croesawu awgrymiadau neu sylwadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, er enghraifft pa mor hawdd ydi hi i gyrraedd lleoliad y gwasanaeth Teithiol ac oriau agor y gwasanaeth.