Hegwyddorion Ymgysylltu â’r Gymuned

Closed 2 Jul 2018

Opened 4 Jun 2018

Overview

Mae Swyddfa’r Post yn falch o gyhoeddi lansiad egwyddorion newydd, sef ein Hegwyddorion Ymgysylltu â’r Gymuned ynghylch newidiadau i rwydwaith Swyddfa'r Post. Cafodd yr Egwyddorion hyn eu cytuno â Chyngor ar Bopeth, Cyngor ar Bopeth yr Alban a Chyngor y Defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon, sef  cyrff gwarchod statudol annibynnol y defnyddwyr.

 Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cwsmeriaid a'u cynrychiolwyr pan fydd newidiadau yn digwydd i'w Swyddfa Bost leol. Mae'r Egwyddorion yn esbonio sut a phryd y byddwn yn dweud wrthych am unrhyw newidiadau a phryd y  byddwn yn gofyn am eich adborth. 

 Bydd yr Egwyddorion hyn yn berthnasol i'r holl newidiadau i rwydwaith Swyddfa'r Post o ddydd Llun 2 Gorffennaf 2018. Byddant yn disodli'r Cod Ymarfer presennol ar Ymgynghori Cyhoeddus a Chyfathrebu mewn perthynas â newid yn rhwydwaith Swyddfa'r Post.