Harlech LL46 2UG (Cym) - 346604
Canlyniadau wedi'u diweddaru 7 Gorff 2021
Following the local public engagement, the letter below confirms our final plans for the branch.
Ffeiliau:
- Harlech LL46 2UG - Information Letter, 123.0 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod ein bod, yn dilyn cau Swyddfa Bost Harlech dros dro, yn ailagor y gangen ddydd Sadwrn 26 Mehefin 2021 am 10:00. Cafwyd gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol dros dro wrth i ni chwilio am ateb parhaol. Bydd y gangen newydd mewn lleoliad newydd, sef Wilderness Cafe, Sgwâr y Castell, Harlech, LL46 2YH.
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.
Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae boddhad cwsmeriaid â changhennau arddull lleol yn uchel, ac mae llawer o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i oriau agor traddodiadol.
Byddwn yn gosod posteri yn y lleoliad newydd i roi’r newyddion da i gwsmeriaid.
Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Harlech.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook