Gelli CF41 7TX - 383611 (Cym)

Ar gau 28 Chwef 2025

Wedi agor 17 Ion 2025

Canlyniadau wedi'u diweddaru 7 Maw 2025

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: Siop Gyfleustra Asees, 41 Heol Tŷ-isaf, Y Gelli, CF41 7TX, lle byddai’n cael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur, yn amodol ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Mae'r postfeistr cyfredol wedi ymddiswyddo, ac ni fyddai’r adeilad ar gael at ddefnydd Swyddfa’r Post; fodd bynnag, mae'n dda gennym ddweud wrthych y penodwyd rhywun arall i redeg Swyddfa Bost Y Gelli, mewn lleoliad arall.

Mae'r person hwnnw yn credu’n gryf y byddai symud yn helpu i gadw gwasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol, yn ogystal â chefnogi hyfywedd eu busnes. Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Y Gelli yn golygu y byddem yn gallu cynnal gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.

Diddordebau

  • Consultation