Flint Outreach Service CH6 5AD - 332614 (Cym)

Yn cau 13 Meh 2025

Wedi agor 16 Mai 2025

Trosolwg

Mae'r postfeistr sy'n gweithredu'r gwasanaethau allgymorth uchod a gwasanaeth symudol Y Fflint wedi adolygu eu gallu i redeg y gwasanaethau hyn, ac rydym yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ein bod yn gwneud rhai newidiadau i'r ddau wasanaeth allgymorth. Gyda'n cytundeb ni, mae'r postfeistr wedi penderfynu adleoli gwasanaethau Allgymorth Neston, Thornton Hough a Willaston i wasanaeth symudol Y Fflint. Bydd y newidiadau hyn yn dechrau o'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 2 Mehefin 2025.                                                                          
Wedi hynny, bydd y gwasanaeth allgymorth sy’n cael ei redeg o Swyddfeydd y Cyngor, Brook Street, Neston, Swydd Gaer CH64 9XJ yn symud i'r maes parcio yn yr un lleoliad a bydd ganddo oriau gweithredu newydd ar ddydd Mawrth a dydd Gwener. Yn yr un modd, bydd y gwasanaeth allgymorth a gynhelir o Neuadd y Pentref, Manor Road, Thornton Hough, Cilgwri, CH63 1JD hefyd yn symud i'r maes parcio yn yr un lleoliad a bydd ganddo oriau gweithredu newydd ar ddydd Gwener. Yn olaf, bydd y gwasanaeth allgymorth a gynhelir o'r Neuadd Goffa, The Green, Willaston, Neston, Swydd Gaer, CH64 2XR yn symud i'r maes parcio cyfagos yn Pollard Inn, Sgwâr y Pentref, Willaston, CH64 2TU a bydd ganddo oriau gweithredu newydd ddydd Mawrth a dydd Gwener. Am fanylion manwl, cyfeiriwch at y Tabl Gwybodaeth Gwasanaeth yn ddiweddarach yn y llythyr hwn.
Yn ogystal, bydd y gwasanaeth Allgymorth presennol sy'n cael ei redeg o’r Neuadd Goffa, The Green, Willaston, Neston, Swydd Gaer, CH64 2XR Yn adleoli gerllaw i’r cerbyd symudol gydag oriau agor newydd, sef dydd Mawrth 3 Mehefin 2025 am 11:45 a bydd yn gweithredu o’r maes parcio yn Pollard Inn, Sgwâr y Pentref, Willaston, CH64 2TU.

Er mwyn gweithredu'r newidiadau hyn, bydd rhai newidiadau'n cael eu gwneud i oriau agor cyfredol gwasanaethau Symudol Neuadd Llaneurgain. Maes Glas. Sychdyn, Helygain, Pentre Cythrel (New Brighton), Rhosesmor, Mancot, Mynydd Isa, Licswm, Rhyd-y-mwyn, Nannerch, Drury, Sandycroft, Llanferres, Cilcain, Higher Kinnerton, Eryrys, Saltney Ferry, Llanarmon-yn-Iâl, Treuddyn, Llanbedr, Pwll-glas a Llandegla. Daw'r newidiadau hyn i rym yn yr wythnoas sydd yn dechrau ddydd Llun 2 Mehefin 2025.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.

Give Us Your Views

Diddordebau

  • Engagement