Fairwater NP44 4TA - 318632 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 28 Chwef 2020
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Fairwater NP44 4TA - Decision (Cym), 451.5 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: 9 - 13 Sgwâr Fairwater, Fairwater, Cwmbrân, NP44 4TA, lle bydd yn para i fod yn un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.
Pam ydym yn symud?
Fel y gwyddoch, mae ein Postfeistri’n rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod y siop a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo i fod yn gynaliadwy. Yn yr achos hwn, mae’r Postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i’w siop gyfleustra arall gerllaw. Mae ein Postfeistr yn credu’n gryf y bydd y symud yn helpu i gadw gwasanaeth Swyddfa’r Post yn lleol, yn ogystal â helpu hyfywedd busnes y siop.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post, fel y gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook