Crumlin NP11 4QD - 597458 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Gorff 2021
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Pan fydd Swyddfa Bost Crymlyn yn cael ei hadleoli, rhoddir y gorau dros dro i’r gwasanaethau Allgymorth yn Trinant, Cwm, Six Bells a Llanhiledd o ddydd Mercher 28 Gorffennaf 2021.
Bydd y Postfeistr o Swyddfa Bost Crymlyn yn dal i redeg y gwasanaethau Allgymorth, a bydd rhain yn ailddechrau ddydd Llun 9 Awst 2021.
Ffeiliau:
- Crumlin NP11 4QD - Decision (Cym), 191.7 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd - Y Stryd Fawr, Crymlyn, Casnewydd, NP11 4PT, sef hen Neuadd y Pensiynwyr, lle bydd yn dal i gael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.
Pam ydym yn symud?
Fel y gwyddoch, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo.
Yn yr achos hwn, mae’r Postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i adeilad yn yr ardal siopa sy’n llawer oleuach a modern, gyda gwell mynediad, lle gall ddal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i gwsmeriaid yng Nghrymlyn. Bydd yr adeilad newydd, sydd nawr yn wag, yn cael ei adnewyddu’n llwyr er mwyn cynnwys Siop y Pentref, ynghyd â Chaffi a Swyddfa Bost Crymlyn.
Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol yn yr hirdymor. Mae ein Postfeistr yn credu’n gryf y bydd y symud yn helpu i ddiogelu mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol, yn ogystal âchefnogi hyfywedd eu busnes. A bydd yn dal i ddarparu’r un cynhyrchion, gwasanaethau ac oriau agor yn y Swyddfa Bost.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cael gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn dau fan gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn dal i gynnig yr un dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post, fel y gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae canran uchel o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae llawer o gwsmeriaid yn ymweld â changhennau lleol y tu allan i’r oriau agor traddodiadol..
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook