Crumlin Mobile Service NP11 4PT - 597458 (Cym)

Canlyniadau wedi'u diweddaru 16 Maw 2022

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth.

Ffeiliau:

Ar gau 23 Chwef 2022

Wedi agor 26 Ion 2022

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymunedau Maesycwmmer, Penllwyn, Pontllan-fraith ac Elliotstown o'r wythnos yn dechrau Ddydd Llun 31 Ionawr 2022.  Roedd y gwasanaeth Allgymorth blaenorol yn darparu ar gyfer y cymunedau hynny tan yn ddiweddar pan ymddeolodd y postfeistr o Swyddfa Bost Pen-maen.  Felly, caiff ei adfer gan bostfeistr newydd o Swyddfa Bost Crymlyn gyda gwasanaeth Symudol.

Mae Gwasanaeth Symudol, sef Swyddfa Bost deithiol mewn cerbyd pwrpasol sy’n dod â gwasanaethau a nwyddau manwerth Swyddfa’r Post i gymunedau heb orfod dibynnu ar adeilad, yn ffordd dda o gynnal gwasanaeth i gymunedau bach.

Er mwyn gallu cynnal lleoliadau'r Gwasanaeth Symudol newydd, bydd rhai newidiadau i'r gwasanaethau presennol, sydd hefyd yn cael eu darparu gan Swyddfa Bost Crymlyn, yng Ngwaelod-y-garth, Cwmaman, Bedlinog, Gelli-gaer, Trinant, Markham, Cwm, Parc Highlight, Heol Colcot, Merthyr Dyfan, Pant, Six Bells a Llanhiledd o'r wythnos yn dechrau Ddydd Llun 31 Ionawr 2022.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.