Cross Hands SA14 6RD - 351642 (Cym)

Ar gau 1 Tach 2018

Wedi'i agor 20 Medi 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Tach 2018

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn symud y gangen Swyddfa’r Post uchod i leoliad newydd – Archfarchnad Sid, 9b Heol Bryngwili, Cross Hands, Llanelli, SA14 6LR. Bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn gangen leol ffasiwn-newydd.

Yn anffodus, oherwydd ymddiswyddiad y sawl fu'n rhedeg y gwasanaeth partneriaeth ac am nad yw'r adeilad ar gael wedyn i'w ddefnyddio'n Swyddfa Bost, bydd y gangen bresennol yn cau ddydd Mercher 17 Hydref 2018.  Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i gwsmeriaid yng nghymuned Cross Hands, gall y bydd y gwasanaeth yn Archfarchnad Sid yn dechrau ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018.

Pam ydym yn symud?

Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi trawsnewid dros 7,500 o ganghennau fel bod mwy o gwsmeriaid yn gallu cyrchu cynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn amgylchedd modern a chyfeillgar, ac yn aml mae hyn yn golygu oriau agor estynedig, gan gynnwys dydd Sul. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.