Cross Hands SA14 6RD - 351642 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Tach 2018
Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Cross Hands SA14 6RD - Decision, 512.6 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn symud y gangen Swyddfa’r Post uchod i leoliad newydd – Archfarchnad Sid, 9b Heol Bryngwili, Cross Hands, Llanelli, SA14 6LR. Bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn gangen leol ffasiwn-newydd.
Yn anffodus, oherwydd ymddiswyddiad y sawl fu'n rhedeg y gwasanaeth partneriaeth ac am nad yw'r adeilad ar gael wedyn i'w ddefnyddio'n Swyddfa Bost, bydd y gangen bresennol yn cau ddydd Mercher 17 Hydref 2018. Er mwyn adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i gwsmeriaid yng nghymuned Cross Hands, gall y bydd y gwasanaeth yn Archfarchnad Sid yn dechrau ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018.
Pam ydym yn symud?
Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi trawsnewid dros 7,500 o ganghennau fel bod mwy o gwsmeriaid yn gallu cyrchu cynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn amgylchedd modern a chyfeillgar, ac yn aml mae hyn yn golygu oriau agor estynedig, gan gynnwys dydd Sul. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook