Holywell CH8 7AA - 014614 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 9 Awst 2019
Ffeiliau:
- Holywell CH8 7AA - Information Poster (Cym), 105.9 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn newid y ffordd rydym yn rhedeg Swyddfa Bost Holywell. O fis Medi 2019 bydd y gangen yn cael ei rhedeg gan bartner masnachfraint annibynnol, sef ZCO Cyf, o’r adeilad presennol, lle bydd yn cynnig yr un dewis gwych o gynhyrchion a gwasanaethau. Bydd yna oriau agor estynedig, gan gynnwys prynhawniau Sadwrn.
Rydym yn gwneud y newid hwn er mwyn cadw gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn. Fe fyddwch yn gwybod am newidiadau digynsail ar ein strydoedd mawr a’r heriau sy’n wynebu llawer o fân-werthwyr. Mae gofynion ein cwsmeriaid yn newid, hefyd. Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau diogel sydd yn fasnachol gynaliadwy ym mhob cymuned, er mwyn parhau i ateb gofynion cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol. Credaf taw’r newidiadau sy’n cael eu gwneud gennym yn Nhreffynnon yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn. Mae’r mwyafrif helaeth o’r 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Bost, yn fach a mawr, yn cael ei rhedeg yn llwyddiannus eisoes gan ddeiliaid masnachfraint annibynnol.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook