Llangefni LL77 7DY - 006604 (Cym)

Ar gau 17 Gorff 2019

Wedi'i agor 19 Meh 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 9 Awst 2019

Yn dilyn yr ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r wybodaeth isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn newid y ffordd rydym yn rhedeg Swyddfa Bost Llangefni. O fis Medi 2019 bydd y gangen yn cael ei rhedeg gan bartner masnachfraint annibynnol, sef ZCO Cyf, o’r adeilad presennol, lle bydd yn cynnig yr un dewis gwych o gynhyrchion a gwasanaethau, ynghyd ag oriau agor estynedig ar brynhawniau Sadwrn. 

Rydym yn gwneud y newid hwn er mwyn cadw gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn.  Fe fyddwch yn gwybod am newidiadau digynsail ar ein strydoedd mawr a’r heriau sy’n wynebu llawer o fân-werthwyr.  Mae gofynion ein cwsmeriaid yn newid, hefyd.   Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau diogel sydd yn fasnachol gynaliadwy mewn pob cymuned, er mwyn parhau i ateb gofynion cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol.   Credaf taw’r newidiadau sy’n cael eu wneud gennym yn Llangefni yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn.  Mae’r mwyafrif helaeth o’r 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Bost, yn fach a mawr, yn cael ei rhedeg yn llwyddiannus eisoes gan ddeiliaid masnachfraint annibynnol.